Daw Ysgogi’n Rhanbarthol i i Ben-y-bont ar Ogwr!
Cewch glywed gan gwmnïau llwyddiannus a sicrhaodd gyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd Dydd Mercher, y 29ain o Dachwedd, Gwesty Coed-Y-Mwstwr. Amser 07.30 i 09.30. Brecwast llawn yn gynwysedig
Ar ôl llwyddiant digwyddiad brecwast cyntaf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym Margoed ym mis Gorffennaf, mae sioe deithiol Ysgogi’n Rhanbarthol yn symud i Ben-y-bont ar Ogwr. Dowch i ymuno â ni am frecwast gwaith lle y gallwch glywed am ein cronfeydd arian gwerth miliynau lawer o bunnau a gynlluniwyd i hybu arloesi ac i helpu gydag adeiladau.
Gwnaed Ysgogi’n Rhanbarthol yn unswydd bwrpasol ar gyfer perchnogion neu uwch-reolwyr busnesau bach a chanolig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ymunwch â ni, os gwelwch yn dda, i ddysgu drosoch eich hun oddi wrth y bobl sy’n gweithredu’n cronfeydd arian, a hefyd oddi wrth fusnesau bach a chanolig eraill fu’n llwyddiannus wrth wneud cais yn flaenorol. Mae llawer o’r cwmnïau sy’n mynychu’n digwyddiadau yn mynd ymlaen i wneud cais am raglenni cyllid.
Uchafbwyntiau Gorffennaf 2023
Mae Ysgogi’n Rhanbarthol yn gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n pwysleisio rolau arloesi a lleoliad gwaith fel ffactorau twf, sydd o ddiddordeb neilltuol i fusnesau bach a chanolig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Wrth weithio gyda’r timau datblygu economaidd yn y deg Awdurdod Lleol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gallwn gynnwys arbenigwyr yn ein rhaglenni cyllido a all eich cynghori ynglŷn â’r ffordd orau i wneud cais am yr arian hwn.
Siaradwyr
Mae siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Joanna Pontin o Fortium Technologies, Phil Sampson o PwC, and George Richards o CBRE.
Ymunwch â ni yng Nghoed-Y-Mwstwr ar gyfer brecwast gwaith proffidiol
Ac yntau’n ffefryn gan swyddogion gweithredol Hollywood pan ddônt i Ben-y-bont ar Ogwr (i gyfarfod â’n Siaradwyr o Fortium), mae Gwesty Coed-Y-Mwstwr yn enwog am ei leoliad hardd a’i letygarwch. Mae gan y gwesty ddigonedd o le am ddim i barcio ceir, hefyd. Caiff yna fwffe brecwast mawr a hael ei weini wrth i bobl gyrraedd.