Datglöwch eich potensial a byddwch y gorau y gallwch fod.
Sut rydych yn llunio’ch busnes ar gyfer llwyddiant cynaliadwy? Sut rydych yn diogelu’ch busnes model ar gyfer y dyfodol, gan gyfarparu’ch menter yn well i fodloni’r heriau cyfredol? Sut rydych yn bachu ar y cyfleoedd niferus sydd o’n blaen yn y bedwaredd oes ddiwydiannol?
Mae’r Gynhadledd Ysgogi yn bodoli i ateb y cwestiynau hynny – a mwy – gan eich helpu i fod y gorau y gallwch fod. Dyma’r un diwrnod yn y flwyddyn a grëwyd ar gyfer entrepreneuriaid ac uwch-reolwyr fel y chi.
Mae mynychu Ysgogi 2023 yn rhad ac am ddim i gynrychiolwyr busnesau bach a chanolig sy’n gymwys (uchafswm o dri chynrychiolydd i bob cwmni) gyda brecwast, cinio canol dydd, coffi a Derbyniad Diodydd Gyda’r Nos a ddarperir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n partneriaid. Mae yna dâl parcio ceir o £6.00 ar y safle o fewn y Gynhadledd Gynadledda Ryngwladol sy’n daladwy gan gynrychiolwyr a ddaw mewn car.
Beth i’w ddisgwyl gan Ysgogi 2023
- lle i glywed gan arweinwyr meddyliau diwydiant sy’n byw’r heriau a’r cyfleoedd hyn bob dydd
- profiad dysgu lle y gallwch fwynhau gweithdai rhyngweithiol sy’n rhannu arferion gorau ymarferol
- cymuned o’r un meddylfryd, a ddaw â busnesau ynghyd o bob maint a sector
- fforwm lle y caiff eich llais ei glywed
- cyfle i rwydweithio â phobl a all wneud gwahaniaeth i’ch llwyddiant.
Y cyfan mewn un diwrnod – eich diwrnod chi – a gynhelir yn amgylchoedd eithriadol o symbylol Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, ychydig oddi ar Gyffordd 24 yr M4.
Ein siaradwyr Ein siaradwyr a gadarnhawyd ar gyfer Ysgogi 2023
Y Dr Yulia Cherdantseva
CYFARWYDDWR CANOLFAN RAGORIAETH ACADEMAIDD MEWN ADDYSG SEIBERDDIOGELWCH
PRIFYSGOL CAERDYDD
Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn enwog am ei chiniawau cain, a bydd holl gynrychiolwyr Ysgogi 2023 yn derbyn brecwast a chinio canol dydd hyfryd yn Rhan Arddangosfa Ysgogi. Gadewch inni wybod, os gwelwch yn dda, a oes gennych unrhyw ofynion dietegol pan ydych yn cofrestru ar gyfer Ysgogi 2023. Bydd yna hefyd Dderbyniad Diodydd Gyda’r Nos di-dâl o 17.30 (5.30yp) ymlaen a noddir gan Geldards.
DOIR AG YSGOGI ICHI GAN
Gan ganolbwyntio ar y nodau strategol sef Arloesi, Cysylltedd, Cynhwysedd a Chynaliadwyedd, daw Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) â’r deg Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru ynghyd, gyda gweledigaeth i gyflawni uchelgais a thwf cynaliadwy cyfnod hir da ledled Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen.