Cefnogwyd am lwyddiant cynaliadwy…
Mae Ysgogi yn gymuned gydweithredol a grëwyd i helpu busnesau bach a chanolig De-ddwyrain Cymru i gyflawni’u nodau a’u huchelgais. Down â busnesau o bob maint a sector ynghyd – ac rydym yn falch o gael ein cefnogi gan…
Credit: ICC Wales
Noddwr Aur
Sorry, there are currently no headline sponsors, please check back later.
Noddwr Aur
Noddwr Aur
Partneriaeth Porth y Gorllewin: Y ni yw’r bartneriaeth drwy’r rhanbarth cyfan ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr. Gan ymestyn o Abertawe i Swindon, down â busnesau, ymchwil ac arweinwyr lleol ynghyd i ychwanegu £34 biliwn at yr economi erbyn 2030, i gefnogi arloesi ac i gyrraedd sero net. Yr hyn a wnawn:Gweithiwn mewn partneriaeth i ychwanegu at strategaethau a strwythurau presennol yr ardal. Ar hyn o bryd, gweithiwn i adeiladu ecosystem Hydrogen gyntaf y Deyrnas Unedig, i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer 2050 er mwyn cymell buddsoddiad mewn rheilffyrdd, ac i drefnu comisiwn annibynnol i archwilio ynni cynaliadwy yn aber afon Hafren. Rydym hefyd yn cynnull sgiliau’r ardal i ddatblygu’r Uwch-glwstwr Seiber trawsffiniol cyntaf ac i hyrwyddo rhagoriaeth o bob cwr o’r ardal gyda’r lefelau uchaf o lywodraethu yng Nghymru a Lloegr, fel ei gilydd.
Noddwr Aur
Rydym yn brifysgol uchelgeisiol gyda gweledigaeth feiddgar a strategol wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Yn aelod o Grŵp Russell o’r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys yn y DU, rydym yn dod â'r meddyliau mwyaf disglair at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas, yr economi, a'r amgylchedd. Ein Nod Rydym yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint a sector i gefnogi, annog ac i sbarduno arloesedd drwy gydweithio, gan helpu i sicrhau dyfodol gwell i Gymru a'r byd. Mae ein pum Sefydliad Arloesi ac Ymchwil newydd yn mynd i'r afael â diogelwch, trosedd a deallusrwydd, trawsnewid digidol, sero-net, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac imiwnedd systemau. Yn unigol unigryw, yn wych ar y cyd, rydym yn sefyll dros gynnydd, gyda'n gilydd. Mwy ar www.cardiff.ac.uk
Noddwyr y Derbyniad Gyda’r Nos
Noddwyr y Derbyniad Gyda’r Nos
Geldards yw un o brif gwmnïau cyfraith Cymru. Gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Derby, Nottingham a Llundain, cynorthwywn ystod eang o gleientiaid drwy’r Deyrnas Unedig i gyd, Ewrop ac yn Rhyngwladol. Darparwn gynghorion cyfreithiol gwobr-fuddugol i ystod o fusnesau blaenllaw a chyflogwyr mawr, sefydliadau’r sector cyhoeddus yn cynnwys Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol, elusennau, yn ogystal ag unigolion preifat a theuluoedd.
Arddangoswyr Arian
Arddangoswyr Arian
Mae'r cwmni cyfreithiol gwasanaeth llawn Blake Morgan wedi ymrwymo i gefnogi economi Cymru sy'n gynaliadwy ac yn ffynnu ac mae ein cyfreithwyr yn falch o gynghori datblygwyr a buddsoddwyr gyda'r agenda datgarboneiddio a thwf yng Nghymru.
Arddangoswyr Arian
Mae Banc Datblygu Cymru yn dod ag uchelgeisiau i fodolaeth a sbarduno posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru, gan roi potensial Cymru wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Arddangoswyr Arian
Mae FinTech Wales yn sefydliad dielw sy'n ceisio gwneud Fintech Cymraeg yn un o bileri'r economi fyd-eang – gan feithrin talent wrth gysylltu a grymuso ecosystem y sector.
Arddangoswyr Arian
Mae Consortiwm Media Cymru yn cynnwys 23 o sefydliadau sydd wedi'u lleoli ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gyda'n gilydd rydym yn darparu prosiectau o fewn, ac ar gyfer, sector y cyfryngau yng Nghymru. Rydym yn Gonsortiwm sydd â nod cyffredin – sef troi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hyb byd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg.
Arddangoswyr Arian
Yn enillydd Her Bywydau Bywydau Gwell Agosach at y Cartref, her ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae NearMeNow wedi dod â VZTA, sef meddalwedd Ecosystem Trefi Clyfar cyntaf y byd i’r farchnad drwy brosiect cydweithredol gyda Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent a Threfynwy.
Arddangoswyr Arian
Mae tîm yr Adran Busnes a Masnach yng Nghymru yn gweithio i ddod â mwy o fuddsoddiad i Gymru, mwy o swyddi i Gymru, a mwy o gyfleoedd allforio i Gymru. Mae'r tîm yn ymroddedig i wella mynediad busnesau Cymreig i wasanaethau’r ABM.
Arddangoswyr Arian
Wedi'i ddewis gan yr Adran dros Waith a Phensiynau, mae Serco yn darparu'r Cynllun Restart yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr, gan gefnogi unigolion cymwys i ddod o hyd i swyddi yn eu hardal leol.
Rydym yn asesu anghenion a chymhellion cyfranogwyr yn drywlyr gan ddefnyddio ein model cyflogadwyedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn gweithio gyda'n rhwydwaith o ddarparwyr a phartneriaid dibynadwy i helpu i chwalu rhwystrau at waith.
Mae gwelliant parhaol wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud a thrwy ddatblygu ein Canolfan Ragoriaeth, rydym yn defnyddio data ac ymchwil i greu arferion da sy'n seiliedig ar dystiolaeth a sy'n sbarduno canlyniadau cadarnhaol.
Arddangoswyr Arian
Wedi'i sefydlu yn 2006, mae QuestionPro yn cynnig platfform ar-lein wedi'i integreiddio'n llawn sy'n cynnwys arolygon, ymchwil a mewnwelediadau, profiad cwsmeriaid (CX) a meddalwedd profiad gweithlu/gweithwyr. Rydym hefyd yn cynnig arolygon barn, mapio teithiau, adolygiadau gweithwyr, a delweddu data.
Mae ein cwsmeriaid yn amrywio o fusnesau bach i gwmnïau’r Fortune 100, sy'n dibynnu arnom am fewnwelediadau am gwsmeriaid, gweithwyr, a'r farchnad. Gyda swyddfeydd yn y DU (sydd â'i bencadlys yn Llundain), UDA, yr Almaen, Mecsico, yr Emiradau Arabaidd Unedig ac India, mae gan ein cwsmeriaid fynediad 24/7 at arbenigwyr a pheirianwyr cymorth hyfforddedig iawn.
Mae ein cwsmeriaid yn amrywio o fusnesau bach i gwmnïau’r Fortune 100, sy'n dibynnu arnom am fewnwelediadau am gwsmeriaid, gweithwyr, a'r farchnad. Gyda swyddfeydd yn y DU (sydd â'i bencadlys yn Llundain), UDA, yr Almaen, Mecsico, yr Emiradau Arabaidd Unedig ac India, mae gan ein cwsmeriaid fynediad 24/7 at arbenigwyr a pheirianwyr cymorth hyfforddedig iawn.
Arddangoswyr Arian
Nod Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRSP) yw nodi ac ymateb i anghenion cymdeithasol, economaidd a sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy ymgysylltu â chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i nodi anghenion sgiliau cyfredol a’r dyfodol ac i gynllunio yn unol â hynny i alluogi ymateb rhanbarthol cynhwysol i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a pholisïau a mentrau Llywodraeth Cymru.
Arddangoswyr Arian
Gweledigaeth y Ganolfan Arloesi Seiber yw “Trawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn glwstwr seiber blaenllaw y Deyrnas Unedig erbyn 2030”. Bydd yn cyflawni hyn drwy greu piblinell o gynnyrch seiber newydd, busnesau twf uchel, a dawn yn y rhanbarth. Ffurfiodd Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Alacrity Foundation, Prifysgol De Cymru a Tramshed Tech bartneriaeth i ddatblygu’r Ganolfan Arloesi Seiber, gyda chydarweinyddiaeth strategol gan Airbus, Thales ac CGI.
Arddangoswyr Arian
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn gorff cynrychiadol drwy Gymru gyfan ar gyfer yr holl sefydliadau neu unigolion hynny sy’n ymwneud â chyflenwi dysgu yn y gweithle. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli’n haelodau gyda rhanddeiliaid drwy Gymru a’r Deyrnas Unedig i gyd, yn herio, yn dylanwadu ac yn llunio polisi ar sgiliau a phrentisiaethau.
Arddangoswyr Arian
Mae Grŵp Hyfforddi Educ8 yn ymgorffori Haddon Training ac Aspire 2Be, ill dau, ac mae’n hyrwyddwr dysgu yn y gwaith a dysgu gydol oes. Mae’r cwmni’n darparu cyfleoedd addysg o ansawdd uchel i ddysgwyr, ac mae’n helpu busnesau i dyfu drwy uwchsgilio’u pobl. Maent yn falch o weithio â chyflogwyr o bob maint, o fusnesau bach a chanolig i gorfforaethau rhyngwladol.
Arddangoswyr Arian
Gan fod yn llwyfan i gysylltu â chymuned entrepreneuraidd y Deyrnas Unedig, mae Eagle Labs yn tyfu rhwydwaith cenedlaethol o fannau deori sy’n darparu deorfeydd busnes, rhaglenni twf, mentora a gweithio ar y cyd a man swyddfa ar gyfer busnesau twf uchel uchelgeisiol. Drwy feithrin cymuned o entrepreneuriaid o’r un bryd drwy ddarparu amgylchedd gwaith cydweithredol, mynediad at eu cymheiriaid a chyfleoedd i dyfu twf hyd yr eithaf drwy gysylltiadau digidol, digwyddiadau wedi’u trefnu’n gywrain a chyfleoedd ariannu, mae Eagle Labs yn gallu helpu egin-fusnesau i dyfu’n gyflym.
Arddangoswyr Arian
Mae Cyswllt Busnes Torfaen yn cynnig gwasanaeth personol i fusnesau ar gyfer eu holl anghenion, yn annog busnesau lleol a denu buddsoddiad newydd i'r Fwrdeistref. Bydd Galw Busnes Torfaen yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl ymholiadau i Gyngor Torfaen.
Arddangoswyr Arian
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu tua 800 o wasanaethau i 160,000 o bobl a busnesau. Rydym yn gartref i economi fywiog sy'n cynnwys busnesau yn y sectorau diwydiannol, gweithgynhyrchu, logisteg fyd-eang, technoleg meddygol, a’r diwydiannau creadigol. Mae hyn oll yn gystylltiedig â chyfleusterau ymchwil academaidd lleol ffyniannus ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Casnewydd yn ogystal ar flaen y gad y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd byd-eang a hefyd yn gartref i Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU - gan ein gwneud yn ddinas ddata lwyddiannus.
Arddangoswyr Arian
Mae PureCyber yn arweinydd diwydiant sefydledig, sy’n darparu ystod gyflawn ac unigryw o ddatrysiadau seiberddiogelwch gwobr-fuddugol i fusnesau o unrhyw faint a sector, mewn unrhyw leoliad o amgylch y byd. Eu cenhadaeth yw cryfhau cyflwr diogelwch a chadernid seiberddiogelwch busnesau rhag ymosodiad mewnol ac allanol.
Arddangoswyr Arian
Mae GlobalWelsh yn sefydliad nid-er-elw annibynnol sy’n canolbwyntio ar gysylltu Cymry a busnesau’n fyd-eang. Mae yna dros 3 miliwn o bobl â chysylltiad â Chymru o amgylch y byd – y Cymry ar wasgar. Drwy ddenu dymuniad unigolion i ailgysylltu â chartref, gall GlobalWelsh hwyluso cysylltiadau twymgalon newydd a chanfod cyfleoedd unigryw i bobl a busnesau, fel ei gilydd, gartref ac oddi cartref. Mae’i lwyfan cymunedol, GlobalWelsh Connect, yn gartref i filoedd o aelodau ledled mwy na 60 o wledydd a 150 o ddiwydiannau – pob un â’i gysylltiad unigryw ei hun â Chymru.
Arddangoswyr Arian
Gan gael ei bweru gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Venture Skills & Talent yn darparu ystod o ymyriadau sgiliau a doniau, a gynlluniwyd i gynorthwyo’ch cynlluniau tyfu busnes. O ddatrysiadau recriwtio a datblygu graddedigion a phobl broffesiynol, Academïau Sgiliau a Rhaglen Gradd Meistr mewn Seiber i ddatrysiadau sgiliau penodedig, siaradwch â Rheolwyr Datblygu Busnes Venture i weld sut y gallwn gynorthwyo.
Arddangoswyr Arian
Mae Lexington Corporate Finance yn helpu perchnogion busnes, cwmnïau ac entrepreneuriaid i gyflawni twf ac i wireddu’r gwerth llawn o’u busnesau a’u buddsoddiadau. Cynigiwn wasanaeth hyblyg, o ansawdd uchel, a ffurfiwn berthnasoedd a fagwyd ar gyd-ymddiriedaeth, parch a llwyddiant. Cynigiwn gynghorion strategol ynglŷn â phopeth, o dyfu cynlluniau a chodi arian, i gaffaeliadau, gwerthu cwmnïau, rheoli pryniannau a chwmnïau deillio. Rydym yn cyflawni prisiannau cwmnïau yn rheolaidd sy’n rhagori ar ddisgwyliadau ein cleientiaid, ac mae ein profiad yn cynnwys cynghori ar ystod eang o gytundebau a thrafodiadau cymhleth. Wrth graidd ein busnes y mae tîm o bobl brofiadol, greadigol ac sydd wedi’u cymell yn dda. Enwyd Lexington yn “Tîm Cynghori Cyllid Corfforaethol y Flwyddyn” yng Ngwobrau Llunwyr Cytundebau Cymru yn 2021 ac ymddangosodd yn “FastGrowth 50” Cymru am ddwy flynedd yn olynol.
Arddangoswyr Arian
Mae Hugh James yn gwmni cyfraith sydd yn y 100 uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain, Southampton, Plymouth a Manceinion. Tyfodd y cwmni o ddechreuad diymhongar yn 1960 i ddod yn gwmni cyfraith blaenllaw, sy’n gwasanaethu ystod eang o gleientiaid ledled y Deyrnas Unedig a thramor. Rydym yn gwmni gwasanaeth llawn sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol arbenigol i ystod eang o gleientiaid. Mae ein cleientiaid yn amrywio o fusnesau, unigolion a banciau i sefydliadau’r sector cyhoeddus, cwmnïau eiddo, sefydliadau addysg, a darparwyr cyfleustodau. O fewn y grwpiau cleientiaid hyn, arbenigwn mewn nifer o sectorau, y gallwch ganfod gwybodaeth amdanynt ar y wefan hon. Rhestrir ein holl wasanaethau yma, yn ogystal â’r bobl allweddol sy’n rheoli’n timau a’n gwaith gyda’n cleientiaid.
Arddangoswyr Arian
CSconnected yw'r brand cyfunol ar gyfer nifer cynyddol o weithgareddau sy'n gysylltiedig â lled-ddargludyddion yng Nghymru, sy'n gartref i gymuned unigryw o sefydliadau academaidd, cyfleusterau prototeipio a galluoedd gweithgynhyrchu cyfain uchel byd-eang sy'n cydweithio ar draws amrywiaeth o raglenni ymchwil ac arloesi. Mae CSconnected mewn sefyllfa unigryw i ddatblygu mantais ryngwladol mewn technoleg sofren ac allweddol fydd yn caniatáu i Gymru a'r DU gynyddu masnach yn fyd-eang mewn sectorau pwysig megis cyfathrebu 5G, cerbydau awtonomaidd a thrydan, dyfeisiau meddygol cymhleth, ac electroneg defnyddwyr y dyfodol. Yn 2020, derbyniodd CSconnected gyllid gan y llywodraeth a ddarparwyd drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF) blaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Mae gan y prosiect SIPF CSconnected 55 mis gyfanswm o £43miliwn, gyda chefnogaeth £25miliwn o gronfeydd UKRI. Mae'n adeiladu ar gryfderau rhanbarthol Cymru ac yn integreiddio rhagoriaeth ymchwil gyda chadwyn gyflenwi ranbarthol unigryw mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Arddangoswyr Arian
Mae gan Brifysgol De Cymru gampysau yng Nghaerdydd, Casnewydd, a Phontypridd. Yn cael ei yrru ymlaen gan ei chenhadaeth i newid bywydau a'n byd er gwell, PDC yw prif brifysgol ehangu cyfranogiad Cymru, gan wella cyfleoedd bywyd unigolion a chreu cymunedau mwy ffyniannus. Mae gan PDC ddau sefydliad atodol y mae’n berchen yn llwyr - Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Merthyr Tudful - ac, yn ôl ymchwil gan Biggar Economics, maent yn helpu grŵp PDC i wneud cyfraniad economaidd sylweddol - £1.1 biliwn i economi'r DU bob blwyddyn - mae pob £1 a dderbyniwyd mewn incwm yn cynhyrchu £5.30 i'r economi ehangach. Mae casgliad gynyddol PDC o brentisiaethau gradd a graddau sylfaenol, ochr yn ochr â darpariaeth parhaus rhaglen Rhwydwaith 75 PDC, yn ymestyn y cynnig addysg i fyfyrwyr a all ennill wrth iddynt ddysgu, a felly ehangu'r apêl i astudio, a chreu graddedigion sydd mewn cysylltiad ag anghenion busnes a diwydiant. Gyda myfyrwyr o fwy na 100 o wledydd, rydym yn fyd-eang yn ein rhagolwg, gyda chymuned myfyrwyr fywiog ac amrywiol.
PARTNER CLYWELED
PARTNER CLYWELED
Ffurfiwyd Red90 yn 2003 a threuliodd yr 20 mlynedd diwethaf yn darparu ffilmiau i’r marchnadoedd corfforaethol darlledu ac uchel eu bri. Gall eu tîm mewnol ddarparu gwasanaethau ffilmio, animeiddio, drôn a ffotograffiaeth, gyda phrofiad o amgylch y Deyrnas Unedig a thramor, o St Lucia i Dde Affrica. Mae Red90 yn falch o fod yn bartner clyweled â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.