Rhaglen i rymuso’ch busnes

Mae busnesau bach a chanolig De-ddwyrain Cymru yn hanfodol i wireddu twf ac uchelgais ein rhanbarth. Bydd y rhaglen Ysgogi o sgyrsiau sy’n arwain meddyliau a gweithdai ymarferol yn grymuso’ch busnes i fod y gorau y gall fod – drwy ystod eang o ddirnadaethau a gweithdai arbenigol, y cyfan yn canolbwyntio ar eich helpu chi i lwyddo.

Ni chodir tâl ar gynrychiolwyr i fynychu’n cynhadledd Ysgogi 2023. Darperir brecwast, cinio canol dydd a the a choffi, a bydd yna ddiodydd a sesiwn rhwydweithio wedyn, a noddir gan Cyfreithwyr Geldards Solicitors.

Nodwch, os gwelwch yn dda, fod yna dâl parcio ar y safle a godir gan Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru o £6.00 am y diwrnod, sy’n daladwy gan gynrychiolwyr.

Credit: ICC Wales

Dydd Mercher, y 26ain o Ebrill, 2023 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru

Yn ychwanegol at y sgyrsiau arloesol ar y prif lwyfan, gall pob cynrychiolydd ddewis sesiwn grŵp bychan yn y bore a’r prynhawn gan arweinwyr diwydiant. Dewiswch eich dwy sesiwn grŵp bychan yn ystod y broses gofrestru.

Byddwn yn ychwanegu mwy o siaradwyr gwych at ein cynhadledd Ysgogi 2023, ac felly gall amseriadau newid rhyw ychydig.

Mae ein rhaglen yn cynnwys y canlynol:

Prif Lwyfan

Anerchiad agoriadol

Kellie Beirne, Cyfarwyddwr, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Ysgogi Technoleg

Stephen Kelly, Cadeirydd, Tech Nation

Y Dr Wil Williams, Prif Swyddog Gweithredu, Sefydliad Alacrity Foundation, a Giorgia Tomasello, Prif Swyddog Cynnyrch, Trovalo.

Ysgogi Arloesi

Professor Cara Aitchison, President and Vice Principal, Cardiff Metropolitan University

Damon Rands, Prif Swyddog Gweithredu, PureCyber

Ysgogi Doniau

Lee Jones (hi, hithau, ei), Rheolwr Datblygu sy’n Uwch-bartner, Microsoft

Ysgogi Uchelgais

Eamon Tuhami, Prif Swyddog Gweithredu, Hwyl Ventures

Hugo and Fiona Spowers, CEO and Communications Director, Riversimple Movement

Ysgogi Twf

Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Cymru, Banc Datblygu Cymru

Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredu Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Anerchiad i gau

Nigel Griffiths, Cadeirydd, Cyngor Busnes Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Sesiynau Grŵp Bychan

Cynrychiolwyr i ddewis un sesiwn rhwng 1 a 6 cyn cinio ac un sesiwn rhwng 4 a 6 ar ôl cinio.

1. Seiberddiogelwch ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Y Dr Yulia Cherdantseva a Sharan Johnstone, Canolfan Arloesi Seiber

Ymunwch ag arbenigwyr seiber fforensig y Ganolfan Arloesi Seiber, sef Yulia a Sharan, ar sesiwn a anelir at uwchsgilio gweithluoedd busnesau bach a chanolig a sefydliadau sy’n tyfu ac yn uchelgeisiol ledled ystod eang o feysydd sy’n gysylltiedig â Seiber. Bydd hyn yn dechrau mewn Ymwybyddiaeth / Hylendid Seiber, a bydd yn mynd ymlaen i bynciau traws-feysydd mwy penodol megis CNI, Seiber mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu, ayyb. Mae’r ail gainc yn neilltuol o briodol i’r rheiny a all ddymuno uwchsgilio ar gyfer datblygu gyrfa, rhywbeth y mae Yulia a Sharan ill dwy yn hynod brofiadol ynddo.

2. Technoleg Ariannol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredu, FinTech Cymru

Ymunwch â Phrif Swyddog Gweithredu FinTech Cymru, Sarah Williams-Gardener, a’n panel arbenigwyr o Dechnolegau Ariannol Cymru i weld pa wasanaethau a datrysiadau sydd ganddynt i’w cynnig i fentrau bach a chanolig. O lwyfannau talu, dilysu hunaniaeth, cymorth cyfrifyddiaeth, gwasanaethau trawsnewid digidol, prosesau effeithiol i gynefino cwsmeriaid, i lwyfan marchnata preifat ar gyfer codi buddsoddiad, a llawer iawn mwy, mae gan Gymru gyfoeth o sefydliadau i gefnogi busnesau bach a chanolig i barhau i ffynnu. Felly, pam mae cwmnïau yn parhau i edrych y tu hwnt i Gymru am ddatrysiadau y gellir eu cyflawni yma ar garreg ein drws? Canfyddwch pa Ddatrysiadau Technoleg Ariannol Cymru cynhenid sydd ar gael i chi.

3. Rôl diwydiannau creadigol yn economi Prifddinas-Ranbarth Cymru

Yr Athro Sara Pepper, OBE, Cyd-gyfarwyddwr yr Uned Economi Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae diwydiannau creadigol yn golygu busnes.

Yn y ddegawd ddiwethaf, tyfodd a datblygodd economi creadigol y Deyrnas Unedig yn gyflym ac mae i gyfrif am fwy na 2.5 filiwn o swyddi. Yn ôl ein hamcangyfrifon diweddaraf (gyda data tan 2021), mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gartref i 8,000 o fusnesau creadigol, gan gynhyrchu £2.2 biliwn mewn trosiant, a chyflogi 46,000 o weithwyr a gweithwyr ar eu liwt eu hunain. Ond mae effaith y sector creadigol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hyn, gan orlifo ac ychwanegu gwerth ledled economi Cymru a’r tu hwnt.

Ymunwch â sesiwn yr Athro Sara Pepper i ganfod pam mae’r diwydiannau creadigol yn bwysig.

4. Sut y gall Busnesau Bach a Chanolig afael ar gyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (mewn cydweithrediad â PwC)

Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu, a Nicola Somerville, Pennaeth Datblygu Busnes a Thwf Cynhwysol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae mynychu’r sesiwn hwn yn rhoi’r cyfle i gynrychiolwyr Ysgogi ddysgu am y cyllid a’r cyfalaf y gall busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ymgeisio amdano. Ymunwch â Rhys Thomas a Nic Somerville wrth iddynt egluro sut mae’r Gronfa Safleoedd ac Adeiladau Strategol £50 miliwn yn gweithio. Byddant yn cael cwmni yn y sgwrs hon gan PwC fydd yn arwain ar y Cyfalaf Arloesi a Buddsoddi gwerth £50 miliwn.

5. Gwneud cysylltiadau dramor

Zara May, Pennaeth Cymuned, GlobalWelsh

Mae yna fwy na 3 miliwn o bobl â chysylltiad â Chymru wedi’u gwasgaru o amgylch y byd – y Cymry ar wasgar. Mae rhai o’r Cymry ar wasgar yn arwain rhai o fusnesau mwyaf a mwyaf llwyddiannus y byd – ProDrive, Rolls-Royce, Halma i enwi dim ond ychydig. Mae GlobalWelsh ar genhadaeth i ddod â phobl a busnesau Cymreig ynghyd yn fyd-eang I adeiladu rhwydwaith unigryw o gysylltiadau twymgalon ac i hwyluso creu cyfleoedd newydd. The diaspora is a huge source of knowledge, investment, connection and opportunity for Wales. Drwy ddod â nhw ‘adref’, mae GlobalWelsh yn galluogi Cymru a’r Cymry i lewyrchu mewn ffordd newydd.

Bydd y sesiwn hwn yn archwilio’r cyfleoedd a gynigir a sut y gallant fod o fudd i chi, eich busnes, eich rhanbarth a’ch …gwlad.

6. Ysgogi sgiliau yn y gweithle

Jess Lancashier, Sylfaenydd, From Another

Os ydych yn bwriadu codi cyllid neu fuddsoddiad dros y 24-36 mis nesaf, ymunwch â ni i ddeall sut y bydd deiliadaeth ac ymgysylltu â gweithwyr yn effeithio ar werth eich cwmni a’r hyn y gallwch ei roi ar waith i oresgyn y pedwar paradocs o weithio hyblyg. Byddwn yn archwilio’r canfyddiadau cychwynnol o Raglen Wrando De Cymru; rhannu mewnwelediadau gan reolwyr ac arweinwyr ledled y rhanbarth ynglŷn â sut i droi’r fantol o blaid deilliannau cadarnhaol o weithio hyblyg. Sicrhewch eich bod yn rhoi’r pethau ar waith y mae ar eich gweithlu eu heisiau a’u hangen, ac adeiladwch dystiolaeth gref am eich ased fwyaf gwerthfawr – eich pobl. Mae From Another, y bobl sy’n gweithio i fagu plant, yn eich galluogi i gynorthwyo pawb yn eich sefydliad, beth bynnag y maent yn ei wneud, lle bynnag y maent yn byw, pwy bynnag rydynt. I ganfod mwy o wybodaeth, gwyliwch y fideo 2 funud hwn.

Diolch i’n holl gefnogwyr
CCR RSP

Unleash your story...

What does Unleash mean to the businesses and public bodies of our Region? See and hear for yourself – and get a flavour of what to expect on the day.

Sorry, there are currently no stories, please check back later.