Dechreuodd gyrfa Chris mewn electroneg a lled-ddargludyddion yn labordai ymchwil British Telecom cyn ymuno â menter newydd ar y cyd rhwng BT a’r cwmni DuPont o’r Unol Daleithiau yn 1986.
Roedd Chris yn rhan o’r tîm a sefydlodd Epitaxial Products International Ltd (EPI) yng Nghaerdydd ym 1988, a ddaeth yn IQE plc yn 1999 yn dilyn Cynnig Cyhoeddus Cychwynnol (IPO) llwyddiannus.
Gyda chefndir mewn gwyddoniaeth a pheirianneg, mae gan Chris MBA hefyd, ac mae wedi dal nifer o swyddi uwch reoli yng Ngrŵp IQE cyn iddo ymuno â Phrifysgol Caerdydd fel Cyfarwyddwr CSconnected, sy’n cynrychioli’r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yn y byd, clwstwr sydd yn esblygu’n gyflym ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr.