Cardiff Capital Region’s Business Conference

David TC Davies, AS

Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Penodwyd David T C Davies yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y 25ain o Hydref, 2022. Roedd yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Hydref 2022. Yn flaenorol, roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig rhwng 2010 a 2019. Fe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Fynwy yn 2005. Ganwyd David yn Llundain ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Basaleg, ger Casnewydd, De Cymru. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Gyrfa wleidyddol

Yn 1999, etholwyd David yn Aelod o Gynulliad Cymru dros Fynwy, a daliodd y sedd tan 2007. Ers cael ei ethol i Senedd y Deyrnas Unedig, bu’n aelod o nifer o bwyllgorau, yn cynnwys:

  • Y Pwyllgor Materion Cymreig
  • Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref
  • Y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Tsieina
  • Y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gysylltiadau Prydeinig-Almaenig.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Ar ôl ymadael â’r ysgol, aeth David i weithio i Dur Prydain ac ymunodd â’r Fyddin Diriogaethol, gan wasanaethu am 18 mis fel Gynnwr â Chatrawd 104 Amddiffyn yr Awyr ym Marics Rhaglan, Casnewydd. Gweithiodd hefyd yng nghwmni llongau ei deulu, Burrow Heath Ltd, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cwnstabl Arbennig am 9 mlynedd gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Diolch i’n holl gefnogwyr
CCR RSP