Kellie yw Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – sef rhaglen swyddi a thyfu Gwerth Ychwanegol Gros gwerth £1.28 biliwn, sy’n cynnwys y deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru. Ymunodd Kellie â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2018 o’i rôl fel Dirprwy Brif Weithredwr a’r Prif Swyddog Menter yng Nghyngor Sir Fynwy, lle’r enillodd enw am gyflwyno arloesedd a ffyrdd arloesol o weithio – yn aml yn deillio o’r sector preifat – i mewn i fyd darparu gwasanaeth cyhoeddus. C yn hynny, roedd hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Arloesi a Menter, a Phrif Swyddog Adfywio a Diwylliant yng Nghyngor Sir Fynwy.
A hithau’n was cyhoeddus galwedigaethol ag angerdd dros dwf sy’n gwneud lles, mae Kellie yn Aelod Cyngor dros Ymchwil Lloegr UKRI, ac yn Gyd-gadeirydd Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi – ac mae wedi bod yn Ysgolhaig Arloesi Tywysog Cymru (POWIS).