Cardiff Capital Region’s Business Conference

Rachel Ashworth

Deon

Ysgol Fusnes Caerdydd

Mae Rachel Ashworth wedi bod yn Ddeon yn Ysgol Fusnes Caerdydd ers mis Medi 2018. Ei blaenoriaethau yn y rôl hon yw ymgorffori strategaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol; gwella profiad myfyrwyr a staff; creu amgylchedd ar gyfer ymchwil, asiantaeth ac arloesi; ac, fel Deon benywaidd cyntaf yr Ysgol, mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Mae Rachel hefyd yn Athro mewn Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’i hymchwil yn ymwneud â phedair thema allweddol: newid trefniadaethol a sefydliadol yn y sector cyhoeddus; archwiliaeth ac atebolrwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus.

Mae hi wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion gan gynnwys Journal of Public Administration, Research and Theory, Journal of Management Studies, British Journal of Management, Public Administration, Policy and Politics a’r Public Management Review. Yn ddiweddar, cyd-olygodd ‘Theorising Contemporary Public Management Research: International and Comparative Perspectives’, rhifyn arbennig o’r British Journal of Management, yn ogystal â chyd-olygu ‘Public Service Improvement: Theories and Evidence’ (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2010).

Diolch i’n holl gefnogwyr
CCR RSP