Mae Rhian yn gyfarwyddwr buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru. A hithau â chyfrifoldeb cyffredinol dros gyflenwi’r holl fuddsoddiadau dyled ac ecwiti ar gyfer busnesau sefydledig a chyfnod cynnar, mae’n gweithio’n agos â thîm uwch-reolwyr y Banc Datblygu i reoli’u strategaeth fuddsoddi. Mae hi hefyd yn goruchwylio’u holl weithgareddau buddsoddi ‘angel busnes’ drwy Angylion Buddsoddi Cymru, gan weithio ochr yn ochr â phrif fuddsoddwyr angylion i hyrwyddo buddsoddi syndicâd drwy gronfeydd cyd-fuddsoddi’r Banc.
Mae gan Rhian werth mwy na degawd o brofiad mewn buddsoddiadau yn y Banc Datblygu, a adwaenid yn flaenorol fel Cyllid Cymru. Ymunodd yn wreiddiol â’r cwmni fel swyddog gweithredol mewn buddsoddi yn 2003, gan symud ymlaen yn gyflym i swyddi fel uwch-swyddog, rheolwr a chyfarwyddwr. Ers hynny, datblygodd hanes o lwyddiant mewn strwythuro buddsoddiadau busnesau bychain mewn llawer sector, gan reoli ac arwain gweithrediadau a thimau buddsoddi.
Enwebwyd Rhian hefyd yn Lluniwr Cytundebau Ifanc y Flwyddyn gan ei chymuned llunio cytundebau leol yn 2012, mae ganddi achrediad ACIB, a gweithiodd mewn ymchwil gwyddonol cyn ymuno â’r cwmni.