Mae Sharan Johnstone yn Bennaeth Seiberddiogelwch i Brifysgol De Cymru ac mae’n gyfrifol am reoli’r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol, y cyrsiau i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ynddi, a’r Clinig Cymuned Seiber a gynigir o’n campws yng Nghasnewydd.
Yn ychwanegol at hyn, hi yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd (ACE-CES) ac mae’n rheoli’r timau allgymorth yn Y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol ac Ysgolion a Cholegau Cyber First, Cymru, ac mae’n arwain tîm Doniau a Sgiliau y Ganolfan Arloesi Seiber, sy’n brosiect cydweithredol rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Tramshed Tech ac Alacrity, sydd â’r nod o ailhyfforddi ac uwchsgilio dros 1,500 o bobl yng Nghymru i’w helpu i ddechrau yn, a gwneud cynnydd ledled, y sector seiberddiogelwch amrywiol ac sy’n tyfu’n gyflym.
Mae hi’n Gymrawd Hŷn yr Academi Addysg Uwch, mae’n arholwr allanol cymeradwy yr Academi Addysg Uwch, a hi yw Gwraig y Flwyddyn gyfredol.