Cardiff Capital Region’s Business Conference

Vaughan Gething AS

Gweinidog yr Economi

Llywodraeth Cymru

Ganwyd Vaughan yn Zambia ac fe’i magwyd yn Dorset. Fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Mae ganddo un mab gyda’i wraig, Michelle, ac mae i raddau pell wedi ymddeol o chwarae criced ac mae hefyd yn gefnogwr rygbi a phêl-droed.

Roedd Vaughan yn gyfreithiwr ac yn gyn-bartner yn Thompsons. Mae’n aelod o’r undebau GMB, UNISON ac Unite, ac ef oedd Llywydd TUC Cymru ieuengaf erioed. Bu’n gwasanaethu’n flaenorol fel cynghorydd sir, llywodraethwr ysgol a gwirfoddolwr gwasanaeth cymunedol – gan gynorthwyo a gofalu am fyfyriwr a chanddo barlys yr ymennydd. Mae Vaughan hefyd yn gyn-lywydd NUS Cymru.

Rhwng 1999 a 2001, gweithiodd Vaughan fel ymchwilydd i gyn-Aelodau’r Cynulliad, Val Feld a Lorraine Barrett, a rhwng 2001 a 2003, ef oedd cadeirydd Hawl Pleidleisio – prosiect trawsbleidiol i annog mwy o gyfranogiad gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig croenddu o fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn aelod cyfredol o’r Blaid Gydweithredol.

Daliodd Vaughan y rolau canlynol mewn llywodraeth cyn dechrau ar ei rôl gyfredol fel Gweinidog yr Economi ym mis Mai 2021:

  • Ysgrifennydd y Cabinet/Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fis Mai 2016 i fis Mai 2021;
  • Y Dirprwy Weinidog Iechyd o fis Medi 2014 i fis Mai 2016;
  • Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi o fis Mehefin 2013 i fis Medi 2014.
Diolch i’n holl gefnogwyr
CCR RSP