Cardiff Capital Region’s Business Conference

Councillor Anthony Hunt

Y Cynghorydd Anthony Hunt

Arweinydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Etholwyd Anthony Hunt yn Gynghorydd am y tro cyntaf yn 2012, dros ward Panteg.

Graddiodd Anthony o Brifysgol Caerdydd gyda gradd yn y gyfraith a threuliodd amser yn gweithio yn America cyn dychwelyd i Gymru. Fel mab i nyrs a phlismon, mae Anthony’n cyfeirio at ei angerdd o blaid gwasanaethau rheng flaen, a’i ddymuniad i ddiogelu’r gwasanaethau hynn, fel ei reswm dros fynd i wleidyddiaeth. Cyn cael ei ethol i’r Cyngor, cafodd Anthony ddigonedd o brofiad ar bob lefel o Lywodraeth, gan dreulio amser yn gweithio yn Nhorfaen, yn y Senedd, yn Whitehall ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gweithiodd gyda chyn Aelod Seneddol Torfaen, Paul Murphy, fel Ymchwilydd ac yna fel Cynghorydd Arbennig yn ystod cyfnod Paul fel Ysgrifennydd Cymru ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, gan ddatblygu dealltwriaeth o ddatganoli a’r berthynas rhwng lefelau gwahanol Llywodraeth. Gweithiodd yn agos gyda Paul hefyd yn yr etholaeth, gan weithio ar faterion ar ran etholwyr a datblygu dealltwriaeth o rôl gynrychioliadol leol gwleidyddion etholedig.

Ar y Cyngor, gwasanaethodd Anthony fel yr Aelod Gweithredol dros Adnoddau cyn cael ei ethol yn ddirprwy Arweinydd yn 2015 ac yn Arweinydd yn Rhagfyr 2016.

Yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, mae Anthony’n Cadeirio Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’n aelod o Fwrdd Dinas-ranbarthau CLlL ac ef yw Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Adnoddau.

Diolch i’n holl gefnogwyr
CCR RSP