Y Cynghorydd Huw Thomas yw Arweinydd Cyngor Caerdydd – swydd y mae wedi’i dal ers Mai 2017.
Fel Arweinydd un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, mae Huw a’i weinyddiaeth wedi ymrwymo i hybu Caerdydd ‘Gryfach, Decach, Wyrddach’ drwy hyrwyddo twf cynhwysol a chyflawni prosiectau mawr sy’n cynnwys rhaglen adeiladu ysgolion gwerth £300m, adeiladu 4,000 o dai Cyngor newydd erbyn 2030, datblygiadau seilwaith trafnidiaeth sylweddol ac adeiladu Arena Dan Do 17,000-sedd newydd ym Mae Caerdydd.
Mae Huw wedi cynrychioli’r Sblot yng Nghaerdydd fel Cynghorydd Llafur ers 2012 ac mae wedi dal nifer o swyddi yn y Cabinet ers dod yn Arweinydd. Mae’n cadeirio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a hefyd yn gyfarwyddwr ar Millennium Stadium Plc.
Mae’n aelod o Gydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru ac yn Is-gadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC). Yn ogystal, mae’n un o Lefarwyr Economi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn aelod o’r Cabinet Dinasoedd Craidd ochr yn ochr â chynrychiolwyr o ddinasoedd mawr eraill yn y DU.
Mae Huw yn siaradwr Cymraeg rhugl. Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Rhydychen cyn cwblhau gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi gweithio ym maes TG, trafnidiaeth, ac yn fwy diweddar mewn datblygu rhyngwladol, fel Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru.
I ffwrdd o’r maes gwleidyddol, mae Huw yn gefnogwr chwaraeon, diwylliant a’r celfyddydau, yn mwynhau’r awyr agored ac yn feiciwr brwd. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ac mae’n cefnogi timau pêl-droed Aberystwyth a Chymru.