Bu Wil yn Brif Swyddog Gweithredu Sefydliad Alacrity Foundation (y Deyrnas Unedig) er mis Mawrth, 2017. Nod y Sefydliad yw creu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid sy’n ymwneud â’r maes digidol. Cyn ymuno ag Alacrity, roedd Wil yn Gyfarwyddwr yng Nghyngor Addysg Abu Dhabi, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, yn arwain yr Adran Gwella Ansawdd Addysg Uwch. Treuliodd dros ugain mlynedd fel academydd a rheolwr academaidd yn y Deyrnas Unedig, yn canolbwyntio ar addysg ôl-raddedig. Cyn iddo fynd yn academydd, roedd Wil yn swyddog gweithredol cyllid corfforaethol gydag N. M. Rothschild Limited ac yn swyddog yn y fyddin. Mae gan Wil ddiddordeb neilltuol mewn technolegau digidol, mewn addysg fenter a gweithredol gymhwysol, technoleg addysgol, arloesi, egin-fusnesau ac entrepreneuriaeth, yn ogystal ag ystadegau a rheoli strategol.