Mae Potensial Busnes PRC wedi cael’i Ysgogi
Daeth Ysgogi 2023 â’r meddylfryd busnes diweddaraf a’r arferion gorau at ei gilydd, wedi’i anelu at helpu busnesau bach a chanolig i adeiladu llwyddiant cynaliadwy, yma ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dyma oedd ‘Y Diwrnod’ i fentrau o bob maint a sector sy’n ceisio diogelu dyfodl eu sefydliad, gwneud y mwyaf o’u potensial – a chwrdd â phobl o’r un anian o bob rhan o’r sbectrwm busnes, gwleidyddol ac academaidd.
Cadwch lygad ar ddigwyddiadau Ysgogi fydd yn cael eu cynnal ledled y Rhanbarth – a chymryd amser i wylio’r uchafbwyntiau a bostiwyd yma o’r gynhadledd Ysgogi gyntaf: digwyddiad sydd wedi dechrau rhywbeth ‘Mawr’ i gymunedau busnes De Ddwyrain Cymru.
Daethpwyd â hyn ichi gan:
Ysgogi’ch Potensial Busnes
Sut rydych yn llunio’ch busnes ar gyfer llwyddiant cynaliadwy? Sut rydych yn diogelu’ch busnes model ar gyfer y dyfodol, gan gyfarparu’ch menter yn well i fodloni’r heriau cyfredol? Sut rydych yn bachu ar y cyfleoedd niferus sydd o’n blaen yn y bedwaredd oes ddiwydiannol?
Mae’r Gynhadledd Ysgogi yma i ateb y cwestiynau hynny – a mwy – gan eich helpu chi i fod y gorau y gallwch fod.
Ein siaradwyr Ein siaradwyr a gadarnhawyd ar gyfer Ysgogi 2023
Y Dr Yulia Cherdantseva
CYFARWYDDWR CANOLFAN RAGORIAETH ACADEMAIDD MEWN ADDYSG SEIBERDDIOGELWCH
PRIFYSGOL CAERDYDD